Lleoliad y cyfarfod:
Zoom
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
13 Ionawr 2021
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11147
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf rhithwir, gyda’r Aelodau yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg
Dechreuodd yr eitem am 14.22
Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 2 a 4 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Gwahoddodd y Dirprwy Lywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
3 Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd
Dechreuodd yr eitem am 15.19
Gofynnwyd y 3 cwestiwn cyntaf.
4 Cwestiynau Amserol
Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol.
5 Datganiadau 90 Eiliad
Dechreuodd yr eitem am 15.35
Gwnaeth Helen Mary Jones ddatganiad am: Mae ‘Mr Hunlun’ yn ôl i godi arian i Elusen Hofrennydd Achub Bywyd | Ymddiriedolaeth Elusennol Ambiwlans Awyr Cymru.
6 Dadl ar ddeisebau sy'n ymwneud â mynediad at gyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod cyfyngiadau symud
Dechreuodd yr eitem am 15.37
NDM7543 Janet Finch-Saunders (Aberconwy)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi’r deisebau canlynol ynglŷn â mynediad at gyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod cyfyngiadau symud:
a) Deiseb ‘P-05-1053 Cadwch gampfeydd ar agor ac ystyriwch eu bod nhw mor bwysig â siopau, os cyflwynir cyfyngiadau symud cenedlaethol unwaith yn rhagor’ a gasglodd 20,616 o lofnodion;
b) Deiseb ‘P-05-1063 Dylid agor cyrsiau golff gan eu bod yn chwarae rôl hanfodol o ran gwella iechyd corfforol ac iechyd meddyliol’ a gasglodd 6,317 o lofnodion; ac
c) Deiseb ‘P-05-1074 Cynyddwch nifer y bobl sy'n cael bod mewn mannau awyr agored fel y gall pob tîm yng Nghymru ailddechrau chwarae pêl-droed’ a gasglodd 5,330 o lofnodion.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
7 Dadl Grŵp Y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio – Gohiriwyd
Gohiriwyd yr eitem hon.
8 Cyfnod pleidleisio
Ni chafwyd cyfnod pleidleisio.
9 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 16.24
NDM7532 Mark Reckless (Dwyrain De Cymru)
Datblygiadau cyfansoddiadol yng Nghymru.
Daeth y cyfarfod i ben am 16.42
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 19 Ionawr 2021